Ieithoedd cynhenid, lleiafrifol a llai eu defnydd

Llywodraeth Cymru yw’r weinyddiaeth arweiniol ar gyfer ieithoedd cynhenid, lleiafrifol a llai eu defnydd.

Mae treftadaeth ieithyddol gyfoethog Aelod-Weinyddiaethau’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn rhan bwysig o ddiwylliant yr ynysoedd hyn. I gydnabod y dyhead i gefnogi ieithoedd cynhenid, lleiafrifol a llai eu defnydd, cafodd y pwnc ei ychwanegu at bortffolio’r Cyngor o sectorau gwaith yn y drydedd gynhadledd ym mis Mehefin 2002.

Cymraeg, Gwyddeleg, Gaeleg, Sgoteg, Sgoteg Ulster, Manaweg, Jèrriais, Guernesiais a Chernyweg yw’r ieithoedd sy’n cael sylw’r grŵp.

Mae’r sector gwaith yn helpu i ganfod a rhannu enghreifftiau o arfer gorau rhwng aelod-weinyddiaethau ac ymhlith cymunedau’r ieithoedd. Yn ystod y 3ydd cyfarfod gweinidogol a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 24 Hydref 2014, cytunodd Weinidogion y dylai’r rhaglen waith ar gyfer 2015-16 ganolbwyntio ar:

Dysgu’r ieithoedd dan sylw i oedolion;

Dulliau o farchnata a newid ymddygiad mewn perthynas a'r ieithoedd dan sylw;

Y celfyddydau a’r ieithoedd dan sylw;

Technoleg a’r cyfryngau digidol;

Yr economi;

Y gymuned.

Mae’r sector gwaith yn cyfarfod yn rheolaidd, yn cynnwys cyfarfodydd Gweinidogol, ac mae’n trefnu seminarau blynyddol ar gyfer llunwyr polisi ac ymarferwyr hefyd er mwyn helpu i rannu arferion da ymysg pobl sy’n gweithio yn y sector. Mae pob seminar yn canolbwyntio ar elfen wahanol o gylch gwaith y sector gwaith. Cynhaliwyd seminar ym mis Tachwedd 2012. Y testun dan sylw oedd hybu ieithoedd cynhenid, lleiafrifol a llai eu defnydd trwy addysg y blynyddoedd cynnar. Mae detholiad o’r cyflwyniadau o’r seminar ar gael isod. Cynhaliwyd seminar ar arfer da o safbwynt deddfwriaeth a pholisi yn y maes yng Nghaeredin ym mis Tachwedd 2013 – ceir rhagor o fanylion drwy ddilyn y ddolen hon.

Cafodd casgliadau’r ddwy seminar eu trafod yn y trydydd cyfarfod Gweinidogol o’r sector gwaith a gynhaliwyd yng Nghaerdydd dan gadeiryddiaeth Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrh Carwyn Jones AC. Cyhoeddir communique y cyfarfod isod:

2nd Ministerial Meeting - 24 October 2014

1st Ministerial Meeting - 11 November 2011